Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 29 Ebrill 2024

Amser: 13.00 - 15.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13869


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Sarah Murphy AS (Cadeirydd)

Alun Davies AS

Samuel Kurtz AS

Luke Fletcher AS (yn lle Adam Price AS)

Tystion:

Jane Hutt AS, Trefnydd a'r Prif Chwip

Anna Hind, Llywodraeth Cymru

Will Whiteley, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AS. Luke Fletcher AS oedd yn dirprwyo ar ei ran.

</AI1>

<AI2>

2       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 3, 10, 11 a 12.

Derbyniwyd y cynnig.

</AI2>

<AI3>

3       Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn friffio

Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).

</AI3>

<AI4>

4       Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AS, y Trefnydd a’r Prif Chwip.

</AI4>

<AI5>

5       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI5>

<AI6>

5.1   SL(6)482 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI6>

<AI7>

6       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI7>

<AI8>

6.1   SL(6)479 - Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI8>

<AI9>

6.2   SL(6)480 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI9>

<AI10>

6.3   SL(6)481 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI10>

<AI11>

7       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

</AI11>

<AI12>

7.1   SL(6)477 - Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI12>

<AI13>

8       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI13>

<AI14>

8.1   Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd Grwpiau Rhyngweinidogol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg mewn perthynas â’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach.

</AI14>

<AI15>

8.2   Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygiadau Amrywiol) 2024

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a'r ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

</AI15>

<AI16>

8.3   Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) 2024

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a'r ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

</AI16>

<AI17>

8.4   Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

</AI17>

<AI18>

9       Papurau i'w nodi

</AI18>

<AI19>

9.1   Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, a chytunodd i ymateb maes o law.

</AI19>

<AI20>

9.2   Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diweddariad ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd cyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastigau a fêps untro

Nododd y Pwyllgor yDatganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

</AI20>

<AI21>

9.3   Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diweddariad ar ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes

Nododd y Pwyllgor yDatganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

</AI21>

<AI22>

10    Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan Jane Hutt AS, y Trefnydd a'r Prif Chwip, a chytunodd ar faterion allweddol i'w cynnwys yn ei adroddiad, a fyddai'n cael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI22>

<AI23>

11    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

</AI23>

<AI24>

12    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio): Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI24>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>